Skip to main content
Data Agored Cymru

Datganiad hygyrchedd ar gyfer DataAgoredCymru

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn ymwneud â DataAgoredCymru.

Mae'r wefan hon yn cael ei chynnal gan Data Cymru. Dymunwn i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau;
  • chwyddo hyd at 300% heb i’r testun ollwng oddi ar y sgrin;
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig;
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd; a
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).

Hefyd rydym wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet (Saesneg yn unig) gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch mae'r wefan hon

Gwyddom nad yw rhannau o'r wefan yn gwbl hygyrch:

  • ni allwch addasu uchder llinellau neu fylchiad y testun;
  • mae’r wefan yn cynnwys rhai priodweddau WAI-ARIA diangen nad ydynt yn rhoi unrhyw wybodaeth ychwanegol i’r defnyddiwr;
  • mae’r gwe-lywio yn cynnwys elfennau ARIA sy’n disgwyl plant sydd ar goll;
  • mae rhai elfennau rhieni cysylltiedig ARIA ar goll o we-lywio elfennau plant; ac
  • mae testun ar goll o rai penawdau sy’n ei gwneud yn anodd i ddefnyddwyr ddeall strwythur a llif cynnwys tudalen.

Adborth a gwybodaeth gysylltu

Os oes arnoch chi angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb i chi o fewn pum diwrnod gwaith.

Adrodd problemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch o hyd i unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon neu os credwch nad ydym yn diwallu gofynion hygyrchedd, e-bostiwch: ymholiadau@data.cymru neu ffoniwch 029 2090 9500.

Gweithdrefn Orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anfodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS). (Saesneg yn unig).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Data Cymru wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â’r Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Nid yw’r wefan hon yn cydymffurfio â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 (Saesneg yn unig). Mae’r diffyg cydymffurfiaeth a'r eithriadau yn cael eu rhestru isod.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Methiant i gydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Mae’r wefan yn cynnwys rhai nodweddion WAI-ARIA afraid sy’n methu â rhoi unrhyw wybodaeth ychwanegol i’r defnyddiwr. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 4.1.2 o WCAG 2.1 (Enw, Rôl, Gwerth).

Mae testun ar goll o rai penawdau sy’n ei gwneud yn anodd i ddefnyddwyr ddeall strwythur a llif cynnwys tudalen. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.4.6 o WCAG 2.1 (Penawdau a Labeli).

Mae elfennau gwe-lywio gyda [rôl] ARIA sy’n ei gwneud yn ofynnol i blant gynnwys [rôl] benodol yn brin o rai neu bob un o’r plant gofynnol hynny. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 4.1.2 o WCAG 2.1 (Enw, Rôl, Gwerth).

Mae elfennau gwe-lywio sy’n gwneud elfennau rhieni ARIA yn ofynnol yn brin o rai neu bob un o’r elfennau gofynnol hynny. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 4.1.2 o WCAG 2.1 (Enw, Rôl, Gwerth).

Bwriadwn ymdrin â’r materion hyn erbyn diwedd Mehefin 2021.

Baich anghymesur

Mae’r wefan hon wedi ei hadeiladu ar fframwaith trydydd parti. Nid yw bob amser yn bosibl newid cyfeiriadedd y ddyfais o lorweddol i fertigol heb ei gwneud yn fwy anodd edrych ar y cynnwys.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn yn fewnol ar 31/03/2021. Cafodd ei adolygu diwethaf ar 31/03/2021.

Cafodd y wefan ei phrofi diwethaf yn Fawrth 2021. Cynhaliwyd y prawf gan Data Cymru gan ddefnyddio cyfuniad o Lighthouse Google Chrome, Axe-Dev Tools a phrofi â llaw.

;