Skip to main content
Data Agored Cymru

Telerau ac amodau

DARLLENWCH Y TELERAU AC AMODAU YN OFALUS CYN DEFNYDDIO'R WEFANHON

Amodau defnyddio’r wefan

Darllenwch y telerau ac amodau’n ofalus cyn defnyddio’r wefan.

Trwy ddefnyddio ein gwefan, byddwch chi’n cadarnhau eich bod yn derbyn yr amodau ac yn cytuno i gydymffurfio â nhw. Os nad ydych chi’n cytuno â nhw, peidiwch â defnyddio ein gwefan.

Gwybodaeth am Data Agored Cymru

Mae Data Agored Cymru yn adnodd ‘siop-un-stop’ am ddata agored sector cyhoeddus yng Nghymru, sy’n ei gwneud yn hawdd i chi gyrchu, a defnyddio, data agored sector cyhoeddus.

Yn ogystal â dod â data sector cyhoeddus perthnasol ynghyd sydd wedi’i gyhoeddi’n agored mewn mannau eraill, mae Data Agored Cymru wedi’i ddylunio i’w gwneud yn haws i gyrff sector cyhoeddus gyhoeddi eu gwybodaeth leol nhw mewn fformat agored.

Gall yr holl ddata a gyhoeddir ar y wefan gael ei ddefnyddio a’i ailddefnyddio’n rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored – gweler y wefan am fwy o wybodaeth (Saesneg yn unig).

Os ydych chi’n sefydliad sector cyhoeddus ac eisiau ychwanegu’ch data chi at Data Agored Cymru, cysylltwch â ni. Does dim ots pa mor fawr neu fach ydych chi!

Gwybodaeth ynglŷn â ni

Uned Ddata Llywodraeth Leol ~ Cymru sy’n berchen ar Data Agored Cymru a’r hawliau eiddo deallusol cysylltiedig.

Newidiadau i’r telerau hyn

Mae’n bosibl y diwygiwn y telerau defnydd hyn ar unrhyw adeg drwy newid y dudalen hon. Gwiriwch y dudalen hon o bryd i’w gilydd i gymryd sylw o unrhyw newidiadau a wnawn ni, am eu bod yn eich rhwymo chi.

Newid ein gwefan

Byddwn ni’n cymryd pob cam rhesymol drwy’r amser i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd. Fe ddylech chi nodi, fodd bynnag, y gallai peth gwybodaeth fod yn anghyfoes unrhyw bryd. Allwn ni ddim gwarantu na fydd ein gwefan a’i chynnwys yn rhydd rhag gwallau neu fylchau.

Cyrchu ein safle

Mae’n gwefan ar gael yn rhad ac am ddim. Allwn ni ddim gwarantu y bydd ein gwefan, nac unrhyw wybodaeth sydd arni, ar gael drwy’r amser. Dim ond dros dro y bydd ein gwefan ar gael, ac mae gyda ni hawl i ohirio, dileu, diddymu neu newid unrhyw ran ohoni heb rybudd. Fyddwn ni ddim yn atebol i chi os na fydd ein gwefan ar gael rywbryd neu yn ystod rhyw gyfnod am unrhyw reswm.

Chi sy’n gyfrifol am sefydlu’r holl drefniadau fydd yn eich galluogi i ddefnyddio ein gwefan. Chi sy’n gyfrifol hefyd am sicrhau bod pob person sy’n cyrchu ein gwefan trwy’ch cysylltiad Rhyngrwyd chi a/neu’n defnyddio’r system fel rhan o’ch sefydliad chi yn ymwybodol o’r telerau defnydd hyn a thelerau ac amodau perthnasol eraill, a’u bod yn cydymffurfio â nhw.

Mae’n gwefan yn un gyhoeddus. Y bwriad yw y bydd ar gael i bobl ym mhob rhan o Gymru. Dydyn ni ddim yn honni bod yr wybodaeth sydd i’w gweld ar ein gwefan neu trwyddi yn briodol neu ar gael mewn lleoedd eraill. Mae gyda ni hawl i ddewis peidio â rhoi ein gwefan, ac unrhyw wasanaeth neu nwydd sydd wedi’i ddisgrifio arni, ar gael i rywun neu ryw fro unrhyw bryd. Os ydych chi’n defnyddio ein gwefan o’r tu allan i’r Deyrnas Gyfunol, ar eich cyfrifoldeb eich hun y bydd hynny.

Wrth ddefnyddio a/neu lawrlwytho data o’r wefan, mae’n rhaid i chi atgynhyrchu’r deunydd yn gywir a pheidio â’i ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol.

Llwytho cynnwys i fyny i’n gwefan

Byddwn ni’n ystyried unrhyw gynnwys y gallech chi ei lwytho i fyny i’n gwefan yn ddeunydd nad yw’n gyfrinachol nac yn eiddo i neb. Chi sy’n cadw’r holl hawliau perchnogaeth yn eich cynnwys, ond mae’n ofynnol i chi ei gyhoeddi o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored, sy’n golygu ei fod yn gallu cael ei ddefnyddio a’i ailddefnyddio’n rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng.

At hynny, mae gyda ni’r hawl i ddatgelu pwy ydych chi i unrhyw un sy’n honni bod cynnwys rydych chi wedi’i gyhoeddi neu ei lwytho i fyny yn groes i’w hawlfraint ynglŷn ag eiddo deallusol neu ei fraint i fynnu preifatrwydd.

Mae’n rhaid i chi ymdrechu i sicrhau bod y data sy’n cael eii ddarpau’n wir ac yn gywir ar ddyddiad/amser llwytho’r data i fyny. Fyddwn ni ddim yn gyfrifol nac yn atebol i neb arall am gynnwys rydych chi neu ddefnyddwyr eraill wedi’i gyhoeddi ar ein gwefan, nac am gywirdeb cynnwys o’r fath.

Mae gyda ni’r hawl i dynnu unrhyw gynnwys rydych yn ei lwytho i fyny i’n gwefan os ydyw, yn ein barn ni, yn bersonol, yn sensitif, yn gyfrinachol, yn anweddus, yn fygythiol, yn dwyllodrus, yn amharu ar breifatrwydd person arall neu’n ymosodol. Mae’n rhaid i gynnwys beidio ag amharu ar ddiogelu data, hawlfraint, nod masnach neu breifatrwydd unigolyn neu barti. Ymdrechwn i wneud hyn drwy ymgynghori â pherchennog y data, lle bo’n bosibl.

Mae sylwadau defnyddwyr eraill ein gwefan heb adlewyrchu ein barn nac ein hegwyddorion ni, o reidrwydd. Chi sy’n gyfrifol am ddiogelu eich cynnwys a chadw copïau wrth gefn.

Eich cyfrif a’ch cyfrinair

O ddewis neu dderbyn côd adnabod defnyddiwr, cyfrinair neu unrhyw wybodaeth arall sy’n rhan o’n gweithdrefnau diogelu, rhaid ichi gadw gwybodaeth o’r fath yn gyfrinachol. Peidiwch â’i rhoi i neb.

Mae gyda ni hawl i ddileu unrhyw gôd adnabod defnyddiwr neu gyfrinair unrhyw bryd – ni waeth pwy sydd wedi’i ddewis neu ei roi – os bydd modd credu’n rhesymol nad ydych chi wedi cydymffurfio ag unrhyw ofynion yn yr amodau defnyddio hyn. Bydd unrhwy gam o’r fath yn cael ei gyfathrebu i chi ynghyd â manylion y rheswm.

I Os ydych chi’n gwybod neu’n tybio bod côd eich adnabod yn ddefnyddiwr neu’ch cyfrinair yn hysbys i rywun arall, rhowch wybod inni yn ddiymdroi trwy neges at ymholiadau@data.cymru.

Hawlfraint eiddo deallusol

Ni yw perchennog neu drwyddedai’r holl hawliau eiddo deallusol yn ein safle. Mae deddfau a chytundebau hawlfreintiau ledled y byd yn diogelu’r gwaith hwnnw. Cedwir pob hawlfraint o’r fath.

Cewch chi argraffu copïau a llwytho i lawr rannau o unrhyw dudalennau sydd ar ein gwefan ar gyfer eich defnydd personol neu ar ran pobl rydych chi’n eu cynrychioli. Cewch chi dynnu sylw pobl yn eich sefydliad at wybodaeth sydd ar y wefan.

Chewch chi ddim newid mewn unrhyw ffordd gopïau papur neu ddigidol unrhyw ddeunydd rydych chi wedi’i argraffu neu ei lwytho i lawr a chewch chi ddim cymryd unrhyw luniau, fideos neu dapiau sain a’u defnyddio ar wahân heb y testun gwreiddiol.

O argraffu, copïo neu lwytho i lawr unrhyw ran o’n gwefan yn groes i’r amodau hyn, daw eich hawl i ddefnyddio ein gwefan i ben yn syth ac mae gyda ni hawl i fynnu ichi roi unrhyw gopïau sy’n weddill yn ôl i ni neu eu malu.

Dibynnu ar wybodaeth

Bwriedir i’r wefan helpu pobl i gyrchu a defnyddio data yn ddi-dâl ac yn rhwydd. Cymerwn gamau rhesymol i sicrhau bod yr wybodaeth o fewn y wefan mor gywir â phosibl. Serch hynny, mae’n bwysig nodi bod amrediad eang o sefydliadau’n cyfrannu at yr wybodaeth a gynhwysir yn y wefan. Allwn ni ddim cael ein dal yn gyfrifol am gywirdeb yr wybodaeth hon, a chynghorir y sawl sy’n ei chyrchu i gymryd camau rhesymol i ystyried ei chynnwys yn gweithredu arno.

Wnawn ni ddim unrhyw sylwadau, gwarantiadau na gwarantau, boed datganedig neu oblygedig, bod yr wybodaeth o fewn ein gwefan yn gywir, yn gyflawn nac yn gyfredol.

Terfynau ein hatebolrwydd

Does dim byd yn yr amodau hyn sy’n pennu terfynau ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anafiadau o ganlyniad i esgeulustod, twyll, cynrychioli twyllodrus neu unrhyw atebolrwydd arall nad oes modd cyfyngu arno neu ei wadu yng nghyfraith Lloegr.

I’r graddau sy’n bosibl yn ôl y gyfraith, dyma eithrio pob amod, gwarant a chynrychioli (neu unrhyw delerau eraill) – boed trwy fynegi neu awgrymu – allai fod yn berthnasol i’n gwefan a’r hyn sydd arni.

Fyddwn ni ddim yn atebol i’r un defnyddiwr am unrhyw golled neu niwed boed trwy gytundeb, methu â chyflawni dyletswydd statudol, camwedd (gan gynnwys esgeulustod) neu unrhyw fodd arall – hyd yn oed pe gallen ni fod wedi rhagweld hynny – ynglŷn â’r canlynol:

  • defnyddio ein gwefan neu heb allu ei defnyddio; neu
  • defnyddio unrhyw gynnwys sydd ar y wefan neu ddibynnu arno.

Os ydych chi’n ddefnyddiwr masnachol, dylech chi nodi na allwn ni dderbyn cyfrifoldeb am:

  • colli elw, busnes, cyllid neu gyfleoedd i werthu nwyddau a gwasanaethau;
  • torri ar draws busnes;
  • colli arbedion oedd wedi’u darogan;
  • colli ewyllys ac enw da neu gyfleoedd i fasnachu; neu
  • unrhyw golled neu niwed anuniongyrchol neu ganlyniadol.

Fyddwn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw golled neu niwed o achos firws, ymosodiad ar systemau i’w rhwystro rhag rhoi gwasanaethau ar gael nac unrhyw fath arall o ddeunydd technegol niweidiol a allai effeithio ar eich cyfrifiadur, ei gyfarpar, ei raglenni, ei ddata neu unrhyw ddeunydd arall rydych chi’n berchen arno o ganlyniad ichi ddefnyddio ein gwefan, llwytho peth o’i chynnwys i lawr neu gyrchu unrhyw wefan arall sydd wedi’i chysylltu â hi.

Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan. Dim ond er gwybodaeth ichi y bydd dolenni o’r fath yno. Felly, ddylech chi ddim tybio ein bod wedi cymeradwyo cynnwys y gwefannau hynny. Fyddwn ni ddim yn atebol am unrhyw golled neu niwed o ganlyniad ichi ddefnyddio gwefannau ac adnoddau o’r fath am nad ydyn nhw o dan ein rheolaeth.

Diogelu data a phreifatrwydd

Bydd Data Cymru yn cydymffurfio ar bob adeg â gofynion Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a’r Ddeddf Diogelu Data 2018. Mae ein polisi preifatrywydd yn pennu sut y byddwn yn diogelu eich gwybodaeth chi a sut y caiff ei defnyddio o fewn ein gwefan.

Mae Data Cymru yn gweithredu’n brosesydd data dros yr holl ddata mae’r rheolydd data yn ei storio gan ddefnyddio’r gwasanaeth. Chi fydd yn gyfrifol fel y rheolydd data dros sicrhau bod gennych sail gyfreithiol dros gaffael a storio’r wybodaeth rydym yn ei dal ar eich rhan a thros reoli caniatadau’ch cyfrif yn unol â’r mynediad gweinyddol a gaiff ei roi i chi.

Yr Iaith Gymraeg

Chi sy’n gyfrifol am ofalu bod unrhyw wybodaeth rydych chi wedi’i hychwanegu at y wefan yn cyd-fynd â chyfrifoldebau eich sefydliad yn ôl Deddf y Gymraeg 1993 a Mesur y Gymraeg 2011.

Firysau

Allwn ni ddim gwarantu y bydd ein gwefan yn ddiogel ac yn rhydd rhag firysau neu heintiau eraill. Chi sy’n gyfrifol am drefnu eich technoleg gwybodaeth, rhaglenni cyfrifiadurol a sustemau i gyrchu ein gwefan. Dylech chi ddefnyddio eich meddalwedd eich hun i’ch diogelu rhag firysau.

Peidiwch â chamddefnyddio ein gwefan ni trwy gyflwyno o’ch bwriad firysau, rhaglenni cudd, arfau rhesymeg neu unrhyw ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n niweidiol o safbwynt technolegol. Ddylech chi ddim ceisio cyrchu heb ganiatâd ein gwefan, y gweinydd sy’n ei chynnal nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy’n gysylltiedig â’n gwefan ni.

Peidiwch ag ymosod ar ein gwefan trwy amharu ar ei gallu i roi gwasanaethau ar gael. O weithredu yn groes i’r gofyn hwn, fe fyddech chi’n cyflawni trosedd yn ôl Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn ni’n rhoi gwybod am unrhyw droseddu o’r fath i’r awdurdodau gorfodi perthnasol ac yn cydweithredu â nhw trwy ddatgelu pwy ydych chi. Pe baech chi’n cyflawni trosedd o’r fath, deuai eich hawl i ddefnyddio ein gwefan i ben yn syth.

Cysylltu â’n gwefan

Cewch chi gysylltu â’n gwefan, neu blannu ein chwiliad yn eich gwefan, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny mewn modd teg a chyfreithlon na fydd yn niweidio ein henw da nac yn cymryd mantais ohono. Mae modd hel cynghorion ynghylch cysylltu â’n gwefan neu blannu ein chwiliad trwy ymholiadau@data.cymru.

Peidiwch â gosod dolen mewn ffordd sy’n awgrymu ein bod yn ymwneud â chi neu wedi rhoi sêl ein bendith ar eich gweithgareddau lle nad yw hynny’n wir. Peidiwch â gosod dolen â’n gwefan o wefan nad ydych chi’n berchen arni.

Mae gyda ni hawl i dynnu caniatâd i gysylltu â’n gwefan yn ôl heb roi rhybudd.

Os ydych chi am ddefnyddio unrhyw gynnwys ar ein gwefan ar wahân i’r hyn sydd wedi’i amlinellu uchod, cysylltwch â ymholiadau@data.cymru.

Y gyfraith sy’n berthnasol

Os ydych chi’n ddefnyddiwr, nodwch mai cyfraith Lloegr sy’n berthnasol i’r amodau hyn, y pynciau sydd wedi’u trafod ynddyn nhw a modd eu llunio. Rydych chi a ninnau’n cytuno y bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth gyfyngol.

Os ydych chi’n gwmni, cyfraith Lloegr sy’n berthnasol i’r amodau hyn, y pynciau sydd wedi’u trafod ynddyn nhw, modd eu llunio ac unrhyw ddadlau neu hawlio nad yw’n ymwneud â chytundebau. Rydych chi’n cytuno â ni mai dim ond llysoedd Cymru a Lloegr fydd yn cael barnu ar unrhyw faterion perthnasol.

Cysylltu â ni

I gysylltu â ni, anfonwch neges at ymholiadau@data.cymru.

Diolch am ddod i’n gwefan ni.

Diweddariad diwethaf: 01/03/2021