Ynglŷn â Data Agored Cymru
Mae Data Agored Cymru yn adnodd 'siop-un-stop' am ddata agored sector cyhoeddus yng Nghymru, sy'n ei gwneud yn hawdd i chi gyrchu, a defnyddio, data agored sector cyhoeddus.
Yn ogystal â dod â data sector cyhoeddus perthnasol ynghyd sydd wedi'i gyhoeddi'n agored mewn mannau eraill, mae Data Agored Cymru wedi'i ddylunio i'w gwneud yn haws i gyrff sector cyhoeddus gyhoeddi eu gwybodaeth leol nhw mewn fformat agored.
Gall yr holl ddata a gyhoeddir ar y wefan gael ei ddefnyddio a'i ailddefnyddio'n rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored – gweler y wefan am fwy o wybodaeth (Saesneg yn unig).
Os ydych chi'n sefydliad sector cyhoeddus ac eisiau ychwanegu'ch data chi at Data Agored Cymru, cysylltwch â ni.
I gysylltu â ni, anfonwch neges at ymholiadau@data.cymru.